Ein Gwasanaeth
© 2010 R L Davies & Son Ltd   All Rights Reserved
Home
Cleientiaid
Portffolio
Newyddion
Cysylltu
Llys Derwen
Llysfaen
Colwyn Bay
LL29 8SS

01492 517346
e-bost:: admin@rldavies.co.uk
RLD yw un o’r prif gwmniau adeiladu yng Ngogledd Cymru.  Sefydliwyd y cwmni yn 1947 ac mae gwreiddiau’r RLD wedi ei seilio yn gadarn ar werthoedd traddodiadol tra bod y cwmni yn ymrwymo i ymgorffori dulliau, deunyddiau a thechnegau modern i greu adeiladau o safon. Rydym yn cynnig gwasanaeth proffesiynol gyda phwyslais ar Iechyd a Diogelwch, Rheoli Ansawdd ac ar ragori ar ddisgwyliadau’r cwsmer.   Ein bwriad yn ein holl weithgareddau yw i ddatblygu perthynas dda, wedi ei seilio ar degwch ac ymddiriedaeth, gyda'n cwsmeriaid a'u timau proffesiynol.  Rydym yn falch o'n enw da a llwyddiant yn creu adeiladau preswyl, masnachol a diwydiannol o'r safon uchaf ar gyfer y sector breifat a'r cyhoeddus. Rydym yn credu mewn adeiladu effeithlon, mae ein gweithwyr yn fedrus a phrofiadol ac yn meddu ar wybodaeth eang o ddulliau adeiladu a phrofiad eang o greu adeiladau safonol i ofynnion penodol y cleient, a hynny o fewn cyfyngiadau'r gyllideb ac ar amser.    
Lleolir prif swyddfa RLD yn Llysfaen, Bae Colwyn yn agos i briffordd yr A55 ac o fewn cyrraedd i weddill Gogledd Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr.    Mae'r prif swyddfa wedi ei adeiladu ar safle pwrpasol sydd yn cynnwys gweithdai, cyfleusterau cynnal a chadw peiriannau, sawl ardal storio dan dô a safle ailgylchu.  Rydym yn berchen ar ein fflyd o gerbydau a pheiriannau ein hunnain sydd o fantais pan yn gweithredu ar safle.  Rydym yn elwa o gael rheolwr hyfforddi mewnol yn rhan o'r tîm sydd wedi ei gymeradwy gan y CITB ac mae gennym nifer o weithwyr aml-ddisgybledig sydd wedi gweithio i RLD ers blynyddoedd lawer ac sydd yn derbyn hyfforddiant yn rheolaidd.  Mae pob un o'n gweithwyr safle yn cario cerdyn CSCS.  Mae RLD wedi pasio ISO 9001 - system rheoli ansawdd, ac yn aelod o Constructionline, a CHAS (Construction Health & Safety Group).  
About RLD
Loading...